Criw Celf Gwynedd a Môn a COVID-19

Criw Celf Gwynedd a Môn a COVID-19

Mae ein artistiaid wedi bod yn brysur yn creu gweithdai ar ffurf fideo i’n aelodau gael eu mwynhau o gartref yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae pedwar o artistiaid o Wynedd, Lisa Eurgain Taylor, Glyn Price, Tess Urbanska a Catrin Griffiths wedi creu cyfres o fideos arbennig i ysbrydoli creadigrwydd yn ystod y cyfnod clo. Mae pob artist yn cynnig cyflwyniad i’w lleoliad gwaith, eu cefndir a’u hyfforddiant yn ogystal a thrafod yr hyn sy’n eu hysbrydoli. Yna maent yn tywys aelodau Criw Celf drwy weithgareddau a phrosiectau. Mae’r fideos yma ar gael i’n aelodau yn unig yn bresennol ond y bwriad yw eu rhannu gydag ysgolion yn y dyfodol i ysbrydoli disgyblion ysgol hefyd.Cadwch lygad allan yma ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth ynglyn ag ail gychwyn ein rhaglen o weithgareddau wyneb yn wyneb unwaith mai’n ddiogel ail-gychwyn. Cymerwch ofal.