Arddangosfa Criw Celf Gwynedd & Môn 2019

Arddangosfa Criw Celf Gwynedd & Môn 2019

Bydd arddangosfa newydd yn agor yn Storiel, Bangor ar 13 o Orffennaf ac yn parahu ar agor tan 13 o Awst, galwch draw i’w fwynhau…

Criw Celf 2019

Cynllun sy’n datblygu a hybu artistiaid ifanc yw Criw Celf. Drwy gynnig dosbarthiadau meistr gydag artistiaid proffesiynol ar benwythnosau, mae’r cynllun yn gyfle i blant a phobl ifanc roi cynnig ar dechnegau newydd a magu hyder yn eu sgiliau creadigol. Yn ogystal â hyn, mae’n gyfle i aelodau wneud ffrindiau newydd mewn awyrgylch gyfeillgar, tu hwnt i amgylchedd addysg.

Yn yr arddangosfa hon mae cynrychiolaeth o waith celf grwpiau Criw Celf o Wynedd a Môn, a grewyd rhwng Ionawr a Mehefin 2019. Roedd gan Criw Celf 73 o aelodau yng Ngwynedd a Môn eleni, o 12 ysgol gynradd, 16 ysgol uwchradd ac un ysgol arbennig.

Mae cynllun Criw Celf yn derbyn ceisiadau gan unrhyw blentyn rhwng 10 ac 14 mlwydd oed. Os hoffech wybod mwy am y cynllun, e-bostiwch gwawrwynroberts@gwynedd.llyw.cymru

Lawrlwythwch gopi o boster yr arddangosfa yma