Criw Celf 2019 yn galw pob arlunydd ifanc!

Criw Celf 2019 yn galw pob arlunydd ifanc!

Mae Criw Celf gogledd Cymru yn edrych am blant a phobl ifanc sy’n serenu mewn celf i ymuno â chynllun cyffroes o hyfforddiant arbennigol. Mae Criw Celf yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau celfyddydol gan weithio ag artistiaid proffesiynol mewn amrywiaeth o wahanol orielau a lleoliadau ysbrydoledig. Yn yr un ffordd y mae cerddorfa neu gôr yn darparu cyfle ar gyfer cerddorion ifainc i ymgynnull i berfformio, mae Criw Celf yn cynnig cyfle ar gyfer artistiaid gweledol y dyfodol i dreulio amser gyda’u cyd-artistiaid a chydag artistiaid proffesiynol i ddatblygu eu talent.

Mae’r rhaglen yn cyflwyno pobl ifainc i arlwy gyfoethog ac amrywiol o fathau o gelfyddyd (er enghraifft, peintio, cerflunwaith, cerameg, gwaith gwydr, gwaith tri dimensiwn, printio, gwneud gemwaith) ac yn agor eu llygaid i ehangder y posibiliadau gyrfa y mae’r celfyddydau yn gallu esgor arnynt. Drwy ymaelodi ceir cyfle i fynd ar wibdeithiau achlysurol i orielau a digwyddiadau arbennig yn ogystal a chael arddangos gwaith celf mewn orielau proffesiynol.

‘Rydym yn edrych am blant a phobl ifanc sydd wedi eu hadnabod fel disgyblion ‘Mwy Abl a Thalentog’ (math) ym maes celf yn yr ysgol. Mae plant math yn rhai sydd angen mwy o gyfle i gyfoethogi ac ymestyn eu galluoedd nag a ddarperir i’r rhan fwyaf o ddisgyblion. Mae’r term yn cwmpasu disgyblion sydd yn fwy galluog ym mhob rhan o’r cwricwlwm yn ogystal â’r rhai sy’n dangos talent mewn un maes penodol neu fwy.

Gall plant a’u rhieni hunan enwebu a/neu fe all athro neu athrawes enwebu eu disgyblion. I’r rhai ohonoch sydd am hunan enwebu bydd gofyn i chi drafod eich cais gyda athro/wes eich plentyn, a gofyn iddynt lofnodi slip bychan i gadarnhau bod eich plentyn ar restr Mwy Abl a Thalentog Celf yr ysgol. Croesewir ceisiadau gan blant sy’n derbyn eu haddysg gartref yn ogystal. Mae croeso i chi gysylltu â ni am fwy o fanylion am y broses ymgeisio os yr hoffech neu gwyliwch ein fideo byr sy’n rhoi cyngor ar sut i adnabod a chefnogi plant a phobl ifanc sy’n fwy abl a thalentog ym maes celf – https://youtu.be/DsSaoO2LcFI

Gallwn gynnig llefydd i blant sydd ym mlynyddoedd ysgol 5 i 9, a’r oll sydd angen iddynt wneud yw gyrru esiampl o’u gwaith celf o dan y teitl ‘Fy Hoff Waith Celf’ gyda paragraff byr yn egluro pam yr hoffent ymaelodi â Criw Celf. Cofiwch sicrhau bod y gwaith wedi ei labelu’n glir gan gynnwys enw, oed, ysgol, cyfeiriad cartref, rhif ffon ag ebost. Gwahoddir ceisiadau gan rai sy’n byw yn siroedd Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Y dyddiad cau holl bwysig yw’r 8fed o Rhagfyr, 2018.

Ariannir rhan helaethaf y rhaglen gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru, ac fe godir ffi ymaelodi blynyddol o £38. Mae cronfa bwrsari ar gael i blant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth ariannol i fynychu, mae’r bwrsari ar gael i rai sy’n derbyn cinio am ddim yn yr ysgol, ni fydd ffi aelodaeth yn cael ei godi ar y disgyblion yma ac fe ellir trafod cynnig cyfraniad ariannol tuag at gostau teithio ayb.

Rhowch gynig arni! mae Criw Celf yn raglen wych i gefnogi a datblgu sgiliau celfyddydol plant a phobl ifanc fel mae Lily a Idris o Criw Celf yn disgrifio yn y ffilm yma – https://youtu.be/CWdQXOxig1s Ymgeisiwch ac fe gewch chithau’r run profiadau cyffroes!

Am fwy o wybodaeth am Criw Celf yn eich ardal chi cysylltwch â’r cynrychiolydd perthnasol o’r rhestr cyswllt.