Sesiynau Hyfforddiant i Athrawon

Sesiynau Hyfforddiant i Athrawon

Mwy Abl a Thalentog:
Adnabod a Chefnogi Disgyblion
Mwy Abl a Thalentog Mewn Celf

Hyfforddiant: Athrawon Bl. 5-9

Cyfle i ddysgu mwy am sut i adnabod a chefnogi disgyblion sy’n fwy abl a thalentog ym maes celf, yng nghwmni’r athrawes brofiadol Jane Barraclogh ac artistiad proffesiynnol amrywiol. Dysgwch am brosiect Criw Celf a sut y gall gyfrannu tuag at ddatblygiad eich disgyblion fwyaf abl. Bydd y cwrs yn cynnig cyflwyniadau a thrafodaethau, yn ogystal a chyfle i gyfranogi mewn gweithgareddau celf cyffroes gyda rhai o artistiaid Criw Celf.

Am ddim –~ Darperir cinio ~– Telir cyfraniad tuag at gostau llanw i’r 60 cyntaf i gofrestru ~ Hyfforddiant dwyieithog –

Amser: 9:30 – 15:15

* 14 Tachwedd, Canolfan Grefftau Rhuthin, gyda’r artist Ruth Thomas.

* 15 Tachwedd, Canolfan Grefftau Rhuthin gyda’r artist Lisa Carter.

* 17 Tachwedd, Galeri, Caernarfon gyda’r artist Jan Gardner.

* 20 Tachwedd, Storiel, Bangor gyda’r artist Jan Gardner.

* 22 Tachwedd, Mostyn, Llandudno gyda’r artist Maria Hayes.

“* 23 Tachwedd, Mostyn, Llandudno gyda’r artist Lisa Carter. Wedi ei ganslo!

I archebu lle cliciwch ar y cwrs yr hoffech fynychu uchod a cofrestrwch gyda Eventbrite. Cofiwch adael i ni wybod os oes gennych unrhyw anghenion deiet neu anghenion ychwanegol. Nodwch hefyd os yr ydych angen gwasanaeth cyfieithu.

Am fwy o wybodaeth ebostiwch: janemuir25@hotmail.com
neu gan Edau ar Facebook ac ar Twitter.

Lawrlwythwch gopi o daflen y cwrs yma.