Llefydd ar gael i bobl ifanc yn Criw Celf Gwynedd

Llefydd ar gael i bobl ifanc yn Criw Celf Gwynedd

Beth am ymuno?

Mae un neu ddau o lefydd gwag wedi dod ar gael yn ein grwpiau Criw Celf yng Ngwynedd. Mae gennym 3 grŵp yn rhedeg yn bresennol; un ar gyfer disgyblion blwyddyn 7, grŵp arall ar gyfer disgyblion blwyddyn 8 a’r olaf ar gyfer disgyblion blwyddyn 9. Mae’n aelodau’n cael mynychu cyfres o ddosbarthiadau meistri celf yng nghwmni artistiaid proffesiynol, ymwneud ag arddangosfa Criw Celf, mynychu trip celfyddydol a chael pecyn celf arbennig. Os yr ydych chi’n berson ifanc a hoffai fynychu neu’n rhiant i berson ifanc mwy abl a thalentog ym maes celf cysylltwch!

Mae Rob Jones, Cydlynydd Criw Celf Gwynedd ar gael am sgwrs ar 07711 269 202 neu drwy e-bostio robertowenjones11@gmail.com