Astudiaeth Achos Criw Celf 1 - Gwella Cyfleoedd Gyrfa

Astudiaeth Achos Criw Celf 1 - Gwella Cyfleoedd Gyrfa

Dosbarth Criw Celf: (Blwyddyn 9)
Dosbarthiadau Meistr a fynychwyd: Mynychwyd 6 Dosbarth Meistr (Argraffu sgrin x2, celf amgylcheddol, cerflunio, darlunio, tecstilau)

Mae Criw Celf yn brosiect sydd nid yn unig yn cynnig sgiliau ac arbenigedd yn y celfyddydau yn y tymor byr, drwy ddosbarthiadau meistr creadigol a dysgu sgiliau technegol, mae hefyd yn cynnig y sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i helpu i hyfforddi person ifanc ar gyfer yn ddiweddarach yn eu bywydau proffesiynol.

Mae hyn yn arbennig o amlwg yn y canlyniad i un o gyfranogwyr Criw Celf Wrecsam eleni. Mae Niamh, sydd newydd ddechrau ei harholiadau tgau wedi bod yn ddisgybl Mwy Galluog a Thalentog rhagorol o fewn y celfyddydau, ac yn aelod hir sefydlog o Criw Celf dros y blynyddoedd. Eleni, fodd bynnag, roedd yn gallu defnyddio Criw Celf fel llwyfan ar gyfer ei hastudiaethau academaidd nid yn unig yn y celfyddydau, ond tuag at Fagloriaeth Cymru. Roedd yn ofynnol i Niamh i wneud pedwar penwythnos o waith gwirfoddol ar gyfer Bagloriaeth Cymru i adeiladu ei sgiliau rhyngbersonol a phroffesiynol. Gweithiodd Niamh gyda’n dosbarth Criw Celf Bach yn Wrecsam lle mae hi wedi rhoi cymorth amhrisiadwy i’r artist, Mai Thomas. Bydd y profiad hwn yn rhoi’r wybodaeth y bydd Niamh yn ei defnyddio o fewn ei gyrfa yn y dyfodol fel mae ei mam, Julia, yn egluro:

“I mi, mae profiad y sesiynau wedi bod yn amhrisiadwy i helpu i gefnogi dewisiadau gyrfa a datblygiad Niamh yn y dyfodol.
Mae ganddi ddiddordeb mewn celf a thecstilau a thrwy Criw Celf wedi cael y cyfle i siarad ag artistiaid o wahanol gefndiroedd i ddod o hyd i’w llwybrau gyrfa i mewn i gelf fel gyrfa. Mae hi wedi datblygu cyfeillgarwch parhaol oddi wrth y bobl eraill sydd wedi cymryd rhan ac yn cael y cyfle i gynhyrchu darnau prydferth ac ysbrydoledig o waith.
Mae’r gweithdai Criw Celf wedi rhoi cyfle i Niamh wirfoddoli ac mae hi wedi mwynhau ac elwa o’r profiad hwn yn fawr iawn.” Julia Beech

Mae Niamh yn gobeithio mynd ymlaen i brifysgol i astudio celf/seicoleg felly ar lefel broffesiynol, mae Criw Celf wedi bod yn ychwanegiad defnyddiol at ei sgiliau cefndirol, ar lefel bersonol, mae’n amlwg faint mae Niamh wedi mwynhau Criw Celf dros y blynyddoedd o’r dyfyniad hwn:

“Dros y 3 blynedd diwethaf, mae wedi golygu llawer i mi. Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd, dysgu llawer o sgiliau newydd a chyfarfod llawer o artistiaid gwych a thalentog sydd wedi gwneud gweithdai anhygoel a oedd yn hawdd i’w dilyn. Dros y prosiect rwyf wedi archifo llawer drwy’r 3 blynedd ac yn bendant yn credu y byddaf yn gwneud mwy o sgiliau dros y ddwy flynedd nesaf a byddaf yn sicr yn ymuno â mwy o weithdai yn yr oriel i wella fy sgiliau a chefnogi’r oriel hefyd. Roeddwn i’n meddwl bod holl syniad Criw Celf yn wych ond roeddwn hefyd yn meddwl bod y bobl yn y grwpiau yn wych hefyd. Roeddent yn wir yn gwneud i Criw Celf deimlo fel awyrgylch gwych i greu ynddo. Oherwydd fy mlynyddoedd lawer gyda Criw Celf a gweithdai yn y gorffennol cefais gyfle i wirfoddoli gyda’r grŵp iau ‘Criw Celf Bach’ gyda Mai Thomas. Roedd y cyfle yn anhygoel ac roeddwn yn teimlo fel y gallwn gysylltu yn iawn gyda’r plant oherwydd fy mhrofiadau yn y gorffennol. Roedd y gwirfoddoli hwn yn help mawr gyda fy Magloriaeth Cymru rwyf yn ei astudio ar hyn o bryd a fydd yn help mawr wrth barhau fy astudiaethau yn y coleg a phrifysgol. Felly, fel y gwelwch mae Criw Celf wedi cael effaith fawr iawn ar fy astudiaethau pellach a fy mywyd. Rwyf wedi mwynhau Criw Celf bob blwyddyn ac rwyf nawr yn meddwl bydd mwy o gyfleoedd gwych i’w cael oherwydd y grŵp anhygoel hwn.” Niamh Beech