Cydlynydd Criw Celf Ynys Môn

Cydlynydd Criw Celf Ynys Môn

Swydd ddisgrifiad:
Awst 2016 – Awst 2017
Ffi: £6,000 (£120 y dydd am 50 diwrnod)

Mae Cyngor sir Ynys Môn yn edrych i apwyntio Cydlynydd Prosiect llawrydd brwdfrydig a chreadigol i weithio gydag Oriel Ynys Môn i gynnal cynllun Criw Cefl ar draws y sir.
Dechreuodd Criw Celf yng Ngwynedd yn 2007. Mae partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdresitrefol Conwy, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Bwrdreistrefol Wrecsam wedi bodoli ers 2012 sy’n gwneud Criw Celf y cynllun clef weledol cyntaf ar draws rhanbarth Gogledd Cymru wedi ei abelu ar gyfer artisitaid fwy abl a thalentog.
Mae’r cynllun yn cael ei gynnal gan holl awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru ac mae’n derbyn cefnogaeth ariannol gan gyngor Celfyddydau Cymru.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri Williams ar 01248 752189 CeriAWilliams@ynysmon.gov.uk

Sut i ymgeisio:
I ymgeisio ar gyfer rôl Cydlynydd Criw Celf Ynys Môn gyrrwch gais drwy e-bost yn amlinellu sut y byddwch yn mynd ati i gynnal y rôl ynghyd â darparu CV gyfredol sy’n amlygu profiad perthnasol blaenorol gyda manylion cyswllt dau ganolwr gan gyflogwr blaenorol perthnasol.
Bydd angen cyflwyno cais erbyn 9 yb ar ddydd Llun y 1af o Awst 2016.
E-bostiwch: CeriAWilliams@ynysmon.gov.uk
Cyfweliadau
Rhagwelir y bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn Oriel Ynys Môn, yn ystod wythnos yr 8fed o Awst (i’w gadarnhau)
www.criwcelf.co.uk
www.orielynysmon.info

Swydd ddisgrifiad