Criw Celf Indigo gyda Alfie Strong

Criw Celf Indigo gyda Alfie Strong

Mae Alfie Strong wedi arddangos yn Periclo yn ddiweddar, a’i arddangosfa, “Heart Shaped Like a Baseball Bat” oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gweithdy gyda Criw Celf Indigo.

Y nod oedd dysgu sut i greu gwaith heb boeni am gamgymeriadau, ac yn ei dro, rhyddhau eu technegau lluniadu. Yn ystod y sesiwn nesaf bydd y grŵp yn defnyddio’r lluniau hyn i greu cerfluniau haniaethol.