Paentio tecstilau gyda Rebecca Gould

Paentio tecstilau gyda Rebecca Gould

Ddydd Sul, aeth Criw Celf Magenta ar ymweliad â Periclo, rhaglen dreigl o arddangosfeydd yn Oriel Wrecsam i ysbrydoli eu gweithdy gyda’r artist, Rebecca Gould.

Ar ôl trafodaeth am yr arddangosfa (o’r enw, “Supermarket Sweep”) dechreuodd y grŵp greu ffurfiau haniaethol ar bapur yn gyntaf, ac yna ar ffabrig gan ddefnyddio paent tecstilau a gliter.

Roedd y gwaith celf a grëwyd gyda Rebecca yn drawiadol ac yn feiddgar, gan ganolbwyntio ar liw a ffurf a thynnu ar ysbrydoliaeth gan artistiaid fel Matisse ac artistiaid cyfoes fel Rachel Harrison.