Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 9

Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 9

Gan fod ein grŵp blwyddyn 9 bellach yn cychwyn ar eu trydedd flwyddyn yn Criw Celf, bydd nifer ohonyn nhw yn gwneud eu Gwobrau Celf fel rhan o’u taith Criw Celf eleni. Byddant yn gweithio gyda thri artist dros y flwyddyn. Ym mis Tachwedd, bu iddynt dreulio deuddydd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, yn archwilio’r arddangosfa papur wal arbennig oedd ymlaen. Yn gweithio gyda’r artist Jeanette Orell, aeth y grŵp ati i greu eu cynlluniau papurau wal eu hunain a’u rhoi ar bapur wal plaen gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau argraffu.

Byddant yn gwneud gwaith metel gydag Angharad Jones nesaf, yn weldio a chreu cerfluniau symudol. Yn olaf byddant yn gweithio gyda Lisa Carter, gan archwilio’r defnydd o inc ac olew.