Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 8

Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 8

Cynhaliwyd gweithdy cyntaf blwyddyn 8 o’r flwyddyn academaidd hon ddydd Sadwrn 14 Tachwedd. Cyfarfu’r grŵp yn Neuadd Bentref Trefnant i weithio mewn clai, gyda’r artist Wendy Lawrence yn dangos iddynt sut i wneud darnau haniaethol o glai llosg o safon uchel. Aeth Wendy a’r gwaith gorffenedig gyda hi er mwyn eu crasu.

Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 8

Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 8

Ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr cyfarfu’r grŵp yng Nghanolfan Naylor Leyland Rhuthun er mwyn gweithio gyda’r artist Mandy Coates. Gan ddefnyddio amrywiaeth o gyrs a choed helyg gwnaeth y grŵp amrywiaeth o addurniadau gardd hardd ac addurniadau bach ar gyfer eu coed Nadolig.

Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 8

Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 8

Ddydd Sul 10 Ionawr 2016 bu’n grŵp blwyddyn 8 yn gweithio gyda Lisa Carter, yn archwilio Arddangosfa Jerwood Makers Open yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Fel gwnaeth grŵp blwyddyn 7 ar y diwrnod cynt, buont yn archwilio’r gosodiadau yng ngofod y brif oriel cyn creu eu gosodiadau eu hunain yn ôl yn y Gofod Addysg, bu rhai’n gweithio mewn grwpiau bach tra bu eraill yn gwneud gosodiadau unigol. Canlyniadau anhygoel!!