Criw Celf Sir Ddinbych - Arddangosfa yn llwyddiant mawr

Criw Celf Sir Ddinbych - Arddangosfa yn llwyddiant mawr

Er mwyn dathlu pen-blwydd Bryniau Clwyd yn 30 oed fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn haf 2015, mae aelodau wedi gweithio’n ddiweddar gyda nifer o artistiaid i archwilio a dathlu’r bryniau.

Mae grwpiau Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8 yn gweithio gyda’r artist Ruth Thomas, gan ddefnyddio cyfrwng print i greu cyfres o ddelweddau trawiadol yn seiliedig ar y bryniau, llawer gyda gwrthrychau naturiol wedi eu gorchuddio. Bu’r ddau grŵp hefyd yn gweithio gyda Lisa Carter i archwilio’r bryniau drwy gyfrwng collage, gan ddefnyddio’r broses i ail-ddychmygu eu hamgylchoedd. Bu aelodau Blwyddyn 8 hefyd yn gweithio gyda Catrin Webster, y tro hwn yn gweithio drwy gyfrwng olew, a oedd yn gyfrwng cwbl newydd i’r rhan fwyaf ohonynt.

Cafodd yr arddangosfa eu harddangos yn Loggerheads dros fisoedd yr haf, cyn symud ymlaen i Blas Newydd yn Llangollen am fis. Wedi hyn cafodd ei arddangos yng Nghastell Bodelwyddan rhwng Hydref 2015 ac Ionawr 2016, lle cafodd ei weld gan filoedd o bobl.

Cafodd y ddau grŵp gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai ychwanegol gyda Ben Davis, yn creu blodau coedlan ar raddfa fawr i gyfoethogi perfformiad gan grŵp ieuenctid New Dance, a gynhaliwyd ym Mharc Gwledig Loggerheads ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2015.