Gwaith Criw Celf Sir Ddinbych ar ddangos yn Venue Cymru

Gwaith Criw Celf Sir Ddinbych ar ddangos yn Venue Cymru

Mae detholiad o waith aelodau blwyddyn 7 a blwyddyn 8 ar ddangos mewn cabinet gwydr yn Venue Cymru. Mae’r arddangosfa fechan yn cynnwys gwaith y mae’r Criw Celf wedi ei wneud gyda’r artistiaid Catrin Webster, Karen Williams, Luned Rhys Parri a Hannah Coates. Mae’r cabinet wedi ei leoli wrth ymyl y Swyddfa Docynnau yn y canol ac mae’n werth i chi fynd i edrych ar y gwaith os ydych chi yn yr ardal.