Rhaglen Tymor yr Hydref 2020/21
Yn sgil coronafeirws‘rydym wedi cymryd y penderfyniad anodd i beidio a chynnal gweithdai Criw Celf Bach wyneb yn wyneb yn ystod tymor yr Hydref. ‘Rydym yn mawr obeithio y bydd modd i ni gofrestru aelodau ar gyfer rhaglen newydd o weithdai i gychwyn yn y flwyddyn newydd. Er na fydd modd i ni gwrdd yn ystod y tymor nesaf byddwn yn ceisio rhannu syniadau a gweithgareddau yn ddigidol gyda’n aelodau presennol. Gobeithio bydd y sefyllfa anodd yma yn gwella yn fuan a bydd modd i ni gwrdd unwaith eto a cael bod yn greadigol gyda’n gilydd!
Cymerwch ofal bawb!
(llun gan Zoe Murfin, Criw Celf Bach Aberdyfi)