Dyddiad cau wedi ei ymestyn: 9.8.17 (dyddiad cau gwreiddiol 13.7.17)
Mae Edau yn chwilio am Gydlynydd Hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol llawrydd, creadigol a brwdfrydig ar gyfer y Rhwydwaith Rhanbarthol newydd sydd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o Addysg Greadigol Drwy’r Celfyddydau – cynllun gweithredu i Gymru.
Bydd yn ofynnol i’r Cydlynydd Hyfforddiant ddyfeisio a chyflwyno rhaglen hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaol (dpp) ‘Mwy Abl a Thalentog’ (mat) ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac athrawon celf ysgolion uwchradd mewn partneriaeth â Chriw Celf (prosiect celfyddydau gweledol ar draws Gogledd Cymru ar gyfer pobl ifanc Mwy Abl a Thalentog (mat) o ysgolion y rhanbarth.)
Am gopi o’r swydd ddisgrifiad llawn cliciwch yma.
Ffi:
£ 3,600 yn seiliedig ar 30 diwrnod
o waith am £120 y dydd.
Awst 2017 – Ionawr 2018
Cyfeiriwch unrhwy ymholiadau at:
Gwawr Wyn Roberts
01286 679721 / 07789 032517
gwawrwynroberts@gwynedd.llyw.cymru
Dyddiad cau:
Hanner dydd ar 9.8.17