Bydd arddangosfa newydd yn agor yn Storiel, Bangor a fydd yn arddangos gwaith aelodau Criw Celf Gwynedd.
Bu’r aelodau yn mynychu dosbarthiadau meistr gydag artistiaid proffesiynol i ddysgu sut i ddefnyddio cyfryngau amrywiol, er enghraifft paentio, cerameg, gwaith gwydr, gwaith tri dimensiwn, dylunio ffasiwn a gemwaith. Yn ogystal fe gafodd y bobl ifanc gyflwyniadau ar sut mae’r cyfryngau yma’n berthnasol i’r diwydiant celf a syniadau ynglŷn â pha fathau o yrfaoedd y gellid eu dilyn yn y maes. Detholiad cyfyngedig o waith y bobl ifanc a geir yma sy’n cyflwyno rhai esiamplau a waned yn ystod y flwyddyn academaidd hon.
Nod Criw Celf yw datblygu a meithrin talent ifanc yn y celfyddydau gweledol trwy ddarparu gweithdai a dosbarthiadau meistr i blant a phobl ifanc mwy abl a thalentog. Mae’n rhoi cyfle i artistiaid gweledol y dyfodol weithio ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol mewn amrywiaeth o wahanol orielau a lleoliadau ysbrydoledig. Eleni bu’r aelodau yn gweithio mewn canolfannau megis Oriel Plas Glyn y Weddw, Storiel, Plas Tan y Bwlch a Chastell Penrhyn ymhlith eraill.
Bydd yr arddangosfa ar agor i’r cyhoedd rhwng 10 Mehefin a 22 o Orffennaf, ar ddyddiau Mawrth i Sadwrn, rhwng 11yb a 5yh.
Dyma boster yr arddangosfa, mae croeso cynnes I chi ei rannu gyda’ch ffrindiau a’ch cysylltiadau.
Cyfeiriad y lleoliad: Ffordd Gwynedd, Bangor, Gwynedd. LL57 1DT
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gwawr ar 01286 679721