Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 7

Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 7

Cafodd ein haelodau newydd o flwyddyn 7 eu dosbarth meistr Criw Celf cyntaf yn Neuadd y Dref, Y Rhyl ddydd Sadwrn 17 Hydref. Cafodd pob aelod newydd becyn celf Criw Celf, yn cynnwys paent, pastelau a phensiliau amrywiol o safon uchel, a llyfr braslunio mawr. Aeth yr artist Maria Hayes drwy bob eitem yn eu pecynnau gyda nhw, gan ddangos i’r grŵp sut i wneud y defnydd gorau o’r pecyn newydd.

Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 7

Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 7

Cyfarfu grŵp Blwyddyn 7 Criw Celf am yr ail waith ddydd Sul 15 Tachwedd. Gan weithio yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, Wendy Lawrence oedd yr artist fu’n profi’r grŵp, yn dangos iddynt amrywiol dechnegau o weithio gyda chlai mewn dull haniaethol. Gwnaed darnau rhyfeddol!

Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 7

Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 7

Cynhaliwyd dosbarth meistr cyntaf 2016 ar 9 Ionawr yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Aeth yr artist Lisa Carter a’r grŵp o amgylch yr Arddangosfa Jerwood Makers Open yn y prif orielau; roedd yr arddangosfa yn seiliedig ar osodiad ac ar ôl braslunio ac archwilio yn y gofod oriel, aeth y grŵp yn ôl i’r Ystafell Addysg lle cawsant amrywiaeth ddiddorol a rhyfeddol o ddeunyddiau er mwyn creu eu gosodiadau eu hunain.