Cafodd ein grŵp Criw Celf Blwyddyn 8 hefyd weithio gyda Ruth Thomas, gan gyfarfod unwaith eto yn Neuadd Bentref Trefnant ac archwilio lluniau o fryniau hardd Clwyd. Fel y grŵp blwyddyn 7 o’u blaen, cynhyrchodd pob aelod sawl darn argraffedig terfynol, gyda thirweddau yn cael eu troshaenu â stensiliau o wrthrychau naturiol, neu hyd yn oed ail dirweddau. Mae rhai lluniau hardd iawn a bydd nifer ohonynt yn cael eu harddangos ym Mharc Gwledig Loggerheads ym mis Gorffennaf, pryd y bydd aelodau ifanc o NEW Dance yn cael eu hysbrydoli gan waith y Criw Celf a chan Fryniau Clwyd eu hunain, ac yn cynhyrchu darn dawns newydd i’w berfformio yn y lleoliad. Bydd gwaith Blwyddyn 7 hefyd yn cael ei arddangos ar yr un pryd, gan fod Bryniau Clwyd yn dathlu 30 mlynedd ers ei ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.