Ar 21 Mawrth, fe ddefnyddion ni leoliad sy’n newydd i ni, sef Neuadd Bentref Trefnant, lle buon ni’n gweithio efo’r artist Ruth Thomas. Fe weithiodd y neuadd yn dda iawn, ac roedd digon o le i osod yr offer argraffu ac i’r grŵp gael gwasgaru a gwneud eu stensiliau. Fe ganolbwyntion ni ar dirweddau ac yn benodol ar Fryniau Clwyd, er i rai aelodau ddefnyddio delweddau yr oedden nhw wedi dod â nhw. Cynhyrchodd pob aelod ddau neu dri darn terfynol, lle’r oedd stensiliau o wrthrychau naturiol, neu o anifeiliaid mewn rhai achosion, wedi eu gosod yn haen dros dirweddau. Roedd y darnau gorffenedig yn werth chweil, da iawn blwyddyn 7!!