Mae’r artist Lisa Carter yn cynnal cyfres o chwech gweithdy ar gyfer ein grŵp Criw Celf Bach yn Sir Ddinbych. Ar gyfer y sesiwn gyntaf, ar ddechrau mis Ionawr, bu’n dysgu’r grŵp sut i ddefnyddio golosg a gwnaethant greu golygfeydd bach hyfryd wedi’u gwneud o bren, balwnau ac anifeiliaid bach plastig … yna gwnaethant dynnu eu llun mewn golosg a phensel, gan ychwanegu llinellau o liwiau i greu effaith. Roeddent yn edrych yn wych ac roedd yn ddiddorol gweld sut ymatebodd y gwahanol aelodau i’r briff mor wahanol i’w gilydd.
Ar gyfer ei hail sesiwn ym mis Chwefror, canolbwyntiodd Lisa ar lunio collage ac roedd aelodau Criw Celf Bach wedi ymgysylltu’n llwyr yn y gwaith o greu hybridau rhyfedd o’r llungopïau a’r cylchgronau y daeth Lisa gyda hi fel deunyddiau. Gallwch weld detholiad o’r darnau y gwnaethant eu creu yn y lluniau.