Cyfres o ddosbarthiadau meistr sydd yn rhoi cyfle i blant sydd wedi dangos talent neu/a diddordeb arbennig mewn celfyddyd i ddatblygu eu sgiliau a’u profiadau.
Bydd artistiaid proffesiynol a phrofiadol yn cael eu cyflogi i arwain y sesiynau.
~ Bydd pob plentyn yn cael mynychu rhaglen o ddosbarthiadau meistri undydd yng nghwmni artistiaid proffesiynol sy’n arbenigo mewn amrywiol feysydd. Bydd cyfanswm o 6 diwrnod o hyfforddiant blynyddol i’w cynnal ar ddyddiau Sadwrn / Sul rhwng 11yb a 3yp. Gan y bydd aelodau Criw Celf yn dod o leoliadau ar draws pob sir ac oherwydd bod y rhaglen o weithgareddau yn anelu i roi profiadau amrywiol a chyffrous i aelodau Criw Celf, mi fydd angen teithio i wahanol leoliadau o fewn y siroedd.
~ Ymweliad i oriel/stiwdio
~ Arddangosfeydd o waith celf y plant.
Ariennir y cynllun gan yr Awdurdodau Lleol a Chyngor Celfyddydau Cymru ac fe fydd gofyn i bob plentyn dalu ffi aelodaeth o £38 am y flwyddyn.
Cysylltwch a’r ysgol neu Swyddog Mwy Abl a Thalentog y Cyngor Sir i weld os oes cymorth tuag at gost y prosiect. Mae ganddom fwrsari ar gael i gefnogi disgyblion sy’n gymwys i dderbyn cinio am ddim.
Cyfrifoldeb y rhieni fydd cludo plant i’r dosbarthiadau a darparu pecynnau cinio.
I ymgeisio bydd rhaid cyflwyno darn o waith celf o dan y teitl ‘Fy Hoff Waith Celf’ ynghyd a paragraff byr (hyd at 50 gair) yn nodi pam yr hoffech ymaelodi. Ymwelwch a’n adran newyddion am manylion llawn y broses ymgeisio yn eich sir chi, neu rhowch ganiad i ni.
Dyddiad cau ymgeisio am aelodaeth Criw Celf 2019 yw’r 8fed o Ragfyr 2018.
Clwb celf agored i blant rhwng 7 a 11 mlwydd oed yw Criw Celf Bach. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i blant i greu celf yng nghwmni artistiaid proffesiynol yn ystod gweithdai celf misol. Bydd y sesiynau yn cynnig cyfle i arbrofi â deunyddiau celf, technegau a themâu mewn modd chwareus. Nid oes clwb Criw Celf Bach ar gael ymhob sir ond cysylltwch a ni i holi i weld beth sydd ar gael yn eich ardal chi.