Ein hamcan yw sicrhau mynediad i brofiadau a gweithgareddau celf o safon uchel ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae Criw Celf yn gynllun celf ar gyfer pobl ifanc mwy abl a thalentog. Mae’r prosiect yn cael ei gynnig ym mhob sir yng Ngogledd Cymru ac yn cynnwys cyfres o ddosbarthiadau meistr sydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc sydd wedi arddangos talent a diddordeb arbennig mewn celf i ddatblygu eu sgiliau a’u profiadau. Mae cynllun Criw Celf yn gweithio gyda pobl ifanc sydd ym mlynyddoed 5 i 9.

Yn y blynyddoedd diwethaf ‘rydym hefyd wedi datblygu rhaglen o’r enw Criw Celf Bach sy’n gynllun agored sy’n cynnig gweithgareddau a phrofiadau celf o ansawdd uchel i blant 7-11 mlwydd oed. ‘Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â prosiect o’r enw Portffolio sy’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr Tgau a Lefel A i ddatblygu a chryfhau eu portffolio celf yng nghwmni artistiaid proffesiynol. Mae ganddom hefyd berthynas agos a rhaglen Codi’r Bar sy’n cefnogi disgyblion sy’n awyddus mynd ym mlaen i astudio celf ym mhellach.

Dyfeisiwyd Criw Celf gan Gyngor Gwynedd yn 2007 ac ers hynny mae’r prosiect wedi ymestyn ar draws y Gogledd ac i rannau eraill o Gymru. Mae Criw Celf wedi ei gynnwys yn strategaeth Creawdwyr Ifanc Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n cael ei ariannu gan holl awdurdodau lleol y Gogledd a gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu Criw Celf yn eich ardal chi cysylltwch â ni.