Gwobr Celf i Aelodau Criw Celf Sir Ddinbych

Gwobr Celf i Aelodau Criw Celf Sir Ddinbych

Mae pum myfyriwr o Sir Ddinbych wedi derbyn Gwobr Celf Efydd ar ôl cymryd rhan mewn rhaglen ar gyfer artistiaid ifanc mwy galluog a thalentog.

Mae Criw Celf yn cynnig rhaglen hyfforddiant arbenigol i blant sy’n arddangos talent neu ddiddordeb arbennig yn y celfyddydau gweledol. Mae’r rhaglen o ddosbarthiadau meistr arbennig, gydag artistiaid proffesiynol, yn rhoi cyfle i’r aelodau:

• Dderbyn mynediad i addysg ychwanegol yn y celfyddydau, sy’n fanylach ac o ansawdd uchel
• Meithrin a datblygu sgiliau a dealltwriaeth o gelf weledol a chrefft
• Dysgu am yrfaoedd yn y sector celfyddydau
• Cydweithio gydag artistiaid i ddatblygu eu potensial a’u gallu
• Arddangos eu gwaith mewn oriel gelf broffesiynol

Mae’r Criw Celf ar hyn o bryd yn recriwtio aelodau o flynyddoedd 5, 6, 7, 8 a 9. Am fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio, cysylltwch â Jo McGregor ar 07799 582766 / jo.mcgregor@sirddinbych.gov.uk neu ewch i wefan Criw Celf yn www.criwcelf.co.uk

Mae’r Wobr Efydd yn gymhwyster a gynigir gan Goleg y Drindod Llundain, a bu i rai o’r grŵp blwyddyn 9 ei chwblhau fel cwrs ychwanegol. Mae’r wobr yn ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu eu medrau celf a’u sgiliau arwain.

Dyma’r myfyrwyr sydd wedi derbyn yr wobr:

Agnes Carter
Ceri Mellor
Caitlin O’Garra
Megan Roberts
Ollie Roberts-Evans