Pleser oedd cael cwrdd a’n aelodau newydd yn Saorimor…
Braf iawn oedd cael cyfarfod ag aelodau newydd Criw Celf Gwynedd nol ar ddydd Sadwrn 15 o Hydref ym Mangor. Cafodd yr aelodau newydd ymweld a stiwdio gwehyddu Saori o’r enw Saorimor ym Mangor ar ddechrau eu rhaglen o ddosbarthiadau meistri. Yno bu i’r bobl ifanc weithio ar y cyd a Rosie Green y wehyddwraig i greu darnau lliwgar o waith gan ddefnyddio amrywiol edafedd. Ar ddiwedd y diwrnod cyflwynwyd pecynnau celf arbennig i bawb er mwyn iddynt gael parhau i ddatblygu sgiliau celf gartref rhwng y sesiynau. Da ni gyd yn edrych ‘mlaen yn arw at yr ail sesiwn draw yn Oriel Plas Glyn y Weddw gyda Jenny Fell a fydd yn ein cyflwyno i dechnegau argraffu leino.