Athrawon Gwynedd!… Enwebwch eich Disgyblion...

Athrawon Gwynedd!… Enwebwch eich Disgyblion...

Dosbarthiadau Meistri Celf i Blant Mwy Abl a Thalentog

Athrawon!… A oes gennych ddisgyblion disglair sy’n serennu mewn celf a chrefft?

Mae Criw Celf yn cynnig rhaglen o hyfforddiant arbenigol i blant sy’n fwy abl a thalentog ym maes celf weledol. Drwy ein rhaglen o ddosbarthiadau meistri arbennig, gydag artistiaid proffesiynol, mae aelodau Criw Celf yn cael …

• Mynediad i addysg celf ychwanegol, dwys o ansawdd uchel
• Meithrin a datblygu sgiliau a dealltwriaeth o gelf weledol a chrefft
• Dysgu am yrfaoedd ym maes celf
• Cydweithio ag artistiaid i ddatblygu eu potential a’u gallu
• Arddangos eu gwaith celf mewn oriel broffesiynol

Fel athro neu athrawes gallwch enwebu hyd at 10 o ddisgyblion Blwyddyn 6 i ymaelodi a’r rhaglen hyfforddiant cyffroes hwn. Gyrrwch ddetholiad o’u gwaith celf atom er ystyriaeth erbyn 10yb 13 o Orffennaf 2016, dyma’r hyn sydd ei angen ei gyflwyno…

• Hunan bortread 2D neu 3D wedi ei greu gan ddefnyddio unrhyw gyfrwng neu gyfuniad o gyfryngau (2D dim mwy na maint A3)
• Darlun 2D o’r olygfa drwy unrhyw ffenestr gan ddefnyddio unrhyw gyfrwng neu gyfuniad o gyfryngau. (dim mwy na maint A3)
• Paragraff byr yn egluro pam yr hoffent ymaelodi â Chriw Celf (dim mwy na 50 gair).

Gwnewch yn siŵr bod enw ac oed y plentyn, enw’r ysgol a chyfeiriad cartref a rhif ffôn cartref y plentyn ar gefn pob darn o waith. Gallwch lawr-lwytho labeli yma i’w defnyddio os yr hoffech. Cofiwch mai gallu naturiol y plentyn yr ydym angen ei weld wrth asesu’r gwaith celf. Mae’n hanfodol bwysig nad yw’r plentyn yn derbyn cymorth oedolyn nag artist i greu eu gwaith.

Bydd panel o artistiaid yn dethol y plant llwyddiannus ac fe fyddwn yn eu gwahodd i fynychu rhaglen o ddosbarthiadau meistri fydd yn cychwyn ym mis Medi/Hydref 2016; cychwyn da i’w blwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd!

Postiwch y gwaith celf i…
Criw Celf Gwynedd, Archifdy Caernarfon, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Am fwy o wybodaeth cysylltwch…
Rob Jones: 07711 269 202 / robertowenjones11@gmail.com a lawr-lwythwch ein taflen: Taflen Athrawon

Noder: Mae ffi aelodaeth o £35 i’r plant llwyddiannus.