Swydd: Cydlynydd Criw Celf Gwynedd

Swydd: Cydlynydd Criw Celf Gwynedd

Mae Criw Celf Gwynedd yn edrych i benodi Cydlynydd Prosiect brwdfrydig a chreadigol i weithio ag Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd i gynnal prosiect Criw Celf ar draws y sir. Mae Criw Celf yn gynllun celf weledol sy’n targedu artistiaid mwy abl a thalentog. Mae ffi o £6,000 ar gael sy’n cynnwys teithio, cynhaliaeth a llety. Mae’r ffi wedi ei gyfrifo ar sail £120 y dydd am 50 diwrnod, mae diwrnod gwaith yn 7.5 awr.

Dyddiad cau ymgeisio: 9yb 6/6/16

Swydd Ddisgrifiad:

Diwedd Mehefin 2016 – Awst 2017
Ffi: £6,000 (£120 y dydd am 50 diwrnod)

Mae Cyngor Gwynedd yn edrych i apwyntio Cydlynydd Prosiect llawrydd brwdfrydig a chreadigol i weithio gydag Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd i gynnal cynllun Criw Celf ar draws y Sir.

Dechreuodd Criw Celf yng Ngwynedd yn 2007. Mae partneriaeth rhwng Cynor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistrefol Conwy, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Bwrdeistrefol Wrecsam wedi bodoli ers 2012 sy’n gwneud Criw Celf y cynllun celf weledol cyntaf ar draws rhanbarth Gogledd Cymru wedi ei anelu ar gyfer artistiaid ifainc mwy abl a thalentog.

Mae’r cynllun yn cael ei gynnal gan holl awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru ac mae’n derbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Beth yw Criw Celf?

Mae Criw Celf yn cynnig rhaglenni o ddosbarthiadau meistri ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi arddangos dawn a diddordeb arbennig mewn celf. Bydd artistiaid proffesiynol a profiadol yn cynnal y dosbarthiadau ar gyfer tri grŵp Criw Celf yn ystod blwyddyn ysgol 2016/17.

Bydd y cyfranogwyr hefyd yn treulio diwrnod yn ymweld ag orielau proffesiynol, bydd rhieni a brodyr a chwiorydd yn cael gwahoddiad yn ogystal. Bydd arddangosfa o waith wedi ei greu gan yr artistiaid ifanc ar y cyd a’r artistiaid proffesiynol a fu’n cynnal y gweithdai. Bydd gwaith o’r arddangosfa o bosib yn cael ei ddethol ar gyfer llyfr Gogledd Cymru o weithiau celf gan yr holl gynlluniau Criw Celf.

Bydd y cyfranogwyr yn cael eu dethol drwy broses ymgeisio. Bydd holl Benaethiaid ysgolion cynradd y Sir yn ogystal â Phenaethiaid Adrannau Celf ysgolion Uwchradd yn cael cyfle i enwebu disgyblion a all gael budd o gyfranogi yn y cynllun ac sydd â diddordeb brwd yng nghelfyddyd weledol. Bydd pob disgybl yn cyflwyno dau ddarn o waith celf, hunanbortread a golygfa drwy ffenestr eu cartref yn ogystal â pharagraff yn amlinellu pam yr hoffent fynychu Criw Celf. Bydd y Cydlynydd Criw Celf yn helpu i ddethol yr aelodau.

Mae Criw Celf yn gynllun all-gwricwlaidd sy’n cael ei gynnal tu allan i oriau ysgol er gall cyswllt â’r cwricwlwm ddigwydd, er nid yw hyn yn flaenoriaeth i’r cynllun. Bydd disgwyl i rieni / gwarcheidwaid ddanfon eu plant i’r gweithdai ym mha ble bynnag o fewn y sir y byddant yn cael eu cynnal.

Fel datblygiad newydd ar gyfer 2016/17 byddwn yn cynnal dau o Ddiwrnodau Agored Creadigol yn y sir yn ystod dechrau Gorffennaf neu ym mis Medi – i’w gadarnhau. Bydd y dyddiau hyn yn cael eu targedu ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9 yn ysgolion uwchradd y sir. Pwrpas y Diwrnodau Agored Creadigol yw estyn allan i gynulleidfa o blant sydd wedi dangos diddordeb neu dalent arbennig mewn celf fel rhan o’n hymgyrch recriwtio. Bydd yn arf farchnata i arddangos buddiannau Criw Celf, yn ogystal â chyfle i flasu rhai o’r dosbarthiadau meistri yn ystod gweithdai galw heibio ar y dydd.

Bydd Cymorthyddion Criw Celf yn cael eu penodi i fynychu dosbarthiadau meistri i gefnogi a bod o gymorth i’r Cydlynydd yn ystod y Dyddiau Agored Creadigol, ymweliadau orielau ac i helpu gyda dethol a gosod arddangosfa.

Dadansoddiad o Dasgau

• Bydd y cydlynydd yn trefnu’r Dyddiau Creadigol Agored i recriwtio disgyblion newydd ar gyfer y tri grŵp Criw Celf gan gynnwys trefnu lleoliadau ac apwyntio artistiaid i gynnal y sesiynau blasu a hyrwyddo’r digwyddiadau.
• Cysylltu gyda’r holl ysgolion, ymweld ag ysgolion pan yn briodol, sicrhau gwell ymwybyddiaeth o gynllun Criw Celf.
• Apwyntio artistiaid addas ar gyfer bob dosbarth meistr Criw Celf gan sicrhau bod asesiadau risg a gwiriadau dbr (os oes angen) yn cael eu cwblhau.
• Llogi lleoliadau ar gyfer dosbarthiadau meistri Criw Celf.
• Rheoli’r gyllideb
• Amserlennu cymorthyddion Criw Celf i sicrhau presenoldeb ym mhob dosbarth meistr.
• Sicrhau bod disgyblion Criw Celf yn derbyn gwybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg a hynny’n amserol.
• Trefnu ymweliad oriel ar gyfer pob grŵp Criw Celf
• Trefnu arddangosfa ar y cyd ar gyfer holl grwpiau Criw Celf.
• Cynorthwyo gyda chreu llyfr Criw Celf.
• Mynychu cyfarfodydd rhanbarthol ar ran Criw Celf Gwynedd
• Gwerthuso’r cynllun yn unol â Chanllaw Gwerthuso a Phecyn Cymorth Criw Celf
• Mynychu cyfarfodydd cynnydd gyda staff Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd a fydd yn rheolwyr llinell ar y rôl hwn
• Cynhyrchu adroddiad terfynol i’n harianwyr, Cyngor Celfyddydau Cymru
• Diweddaru gwefan Criw Celf a’r safleoedd cyfryngau cymdeithasol
• I gydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol Cyngor Gwynedd

Bydd £6,000 o ffi ar gael ac mae hyn yn cynnwys teithio, cynhaliaeth a llety. Mae’r ffi wedi ei gyfrifo yn £120 y dydd am 50 diwrnod, mae diwrnod o waith yn 7awr a 30munud

Manylion personol

• Bydd gofyn i’r cydlynydd ymrwymo i fod ar gael rhwng diwedd Mehefin 2016 ac Awst 2017
• Bydd gan y cydlynydd gefndir yn y celfyddydau a bydd ganddynt brofiad o fonitro, cynllunio a gwerthuso gweithdai creadigol a phrosiectau gyda phobl ifanc
• Mae’r gallu i weithio drwy gyfrwng Y Gymraeg yn hanfodol
• Bydd angen i’r Cydlynydd fod yn hunan cyflogedig a bod ganddynt yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.
• Mae’r swydd hon yn ddarostyngedig ar wiriad drb boddhaol (i’w gadarnhau)
• Mae trwydded yrru lawn a mynediad i gerbyd yn angenrheidiol yn ogystal â meddu a’r yswiriant ‘defnydd busnes’
• Bydd gofyn i chi weithio o’ch swyddfa chi eich hun.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gwawr Wyn Roberts ar 01286 679721 gwawrr@gwyned.gov.uk

Sut i Ymgeisio

I ymgeisio ar gyfer rôl Cydlynydd Criw Celf Gwynedd gyrrwch gais drwy e-bost yn amlinellu sut y byddwch yn mynd ati i gynnal y rôl ynghŷd â darparu CV gyfredol sy’n amlygu profiad perthnasol blaenorol gyda manylion cyswllt dau ganolwr gan gyflogwr blaenorol perthnasol.

Bydd angen cyflwyno cais erbyn 9yb ar ddydd Llun 6ed o Fehefin 2016

E-bostiwch at: gwawrr@gwynedd.gov.uk

Cyfweliadau

Rhagwelir y bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yng Nghaernarfon, Gwynedd ar y 9fed o Fehefin (i’w gadarnhau)