Criw Celf Newydd i Wynedd 2015/16

Criw Celf Newydd i Wynedd 2015/16

Mae Criw Celf Gwynedd yn edrych ymlaen at gydweithio gyda chriw newydd o bobl ifanc yn rhan o raglen o weithdai arbennig. Mae Criw Celf yn rhaglen sy’n cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc sydd â dawn neu ddiddordeb arbennig mewn celf ymarfer eu doniau. ‘Rydym yn cynnig cyfleoedd i arbrofi a chreu yng nghwmni artistiaid proffesiynol amrywiol mewn safleoedd ysbrydoledig ar hyd a lled y sir.

Yn bresennol mae gan Griw Celf Gwynedd 6 grŵp o blant yn cwrdd yn Arfon, Meirionnydd ac yn Nwyfor. Mae gan Criw Celf dros 80 o aelodau; ac yn ystod y flwyddyn ysgol ddiwethaf cynhaliwyd 52 o weithdai ac bydd arddangosfa fawreddog yn cael ei gynnal yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd dros yr Haf.

Fe estynnwyd gwahoddiad i blant o Wynedd sydd â dawn a diddordeb arbennig mewn celf i gyflwyno gwaith er ystyriaeth i gael ymaelodi a grŵp newydd sbon.

Derbyniwyd dros 70 o geisiadau o bob cwr o Wynedd.Gyda chymorth yr artist o Lŷn, Therese Urbanska, mae 25 o blant wedi eu dethol i ymuno â’r grŵp newydd. Mae disgyblion o Ysgolion Treferthyr, Waunfawr, Penybryn – Tywyn, Cae Top, Bontnewydd, Hirael, Bro Hedd Wyn, Dolbadarn, Nebo a Sarn Bach ynghyd ag aelodau unigol am ymuno a’r grŵp newydd. Mae pawb sydd wedi llunio cais wedi derbyn tystysgrif mewn cydnabyddiaeth am eu gwaith caled a’u ymroddiad i gelf.

‘Rydym yn edrych ymlaen yn arw i groesawu’r aelodau newydd ac i’w cyflwyno nhw i brofiadau a chyfleoedd addysgiadol a chreadigol dros y flwyddyn sydd i ddod.

01286 679721 / 07789 032517