Criw Celf Sir Ddinbych – Grŵp Blwyddyn 7

Criw Celf Sir Ddinbych – Grŵp Blwyddyn 7

Ar 17 Ionawr, cyfarfu grŵp Sir Ddinbych yng Nghanolfan Grefft Rhuthun i weithio gyda’r artist Karen Williams.

Gwnaethant ymweld â’r brif oriel i edrych ar waith David Poston a’i drafod. Ei waith ef a ysbrydolodd yr hyn a wnaethant yn ôl yn yr ystafell addysg wedyn. Roedd Karen wedi dod ag ystod dda o ddeunyddiau naturiol er mwyn i’r grŵp eu cynnwys yn eu gwaith a chafodd darnau hardd o emwaith eu cynhyrchu – mamau lwcus iawn rwy’n siŵr!