Ymweliad â Tate Lerpwl

Ymweliad â Tate Lerpwl

Ddydd Sadwrn, 13 Rhagfyr, ymwelodd grŵp blwyddyn 7 ac 8 Criw Celf Sir Ddinbych, a’u rhieni, ag Oriel y Tate yn Lerpwl. Fe deithion nhw yno ar fws a chael amser bendigedig yn arddangosfa Warhol yn ogystal ag yn yr orielau eraill. Aeth rhai aelodau i Oriel Bluecoat, lle’r oedd arddangosfa Dadaist. A do, mi gawson nhw hefyd gyfle i wneud ychydig o siopa Nadolig …