Peintio Olew efo Catrin Webster

Peintio Olew efo Catrin Webster

Ar 6 Rhagfyr aeth grŵp blwyddyn 8 Criw Celf Sir Ddinbych i Gastell Bodelwyddan, lle gawson nhw ddosbarth meistr gwych efo’r artist Catrin Webster. Roedd y dosbarth yn canolbwyntio ar dechnegau paentio a defnyddio paent olew. Cynhyrchodd y grŵp amrywiaeth trawiadol o waith dyfrlliw ac olew ac mi fyddan nhw’n gweithio efo Catrin eto yn y flwyddyn newydd yn defnyddio paent olew.