Gweithdai Nadolig y Criw Celf Bach

Gweithdai Nadolig y Criw Celf Bach

Mwynhaodd Criw Celf Bach Sir Ddinbych dau weithdy Nadolig yn y Rhyl ym mis Tachwedd. Ar 1 Tachwedd buont yn gweithio gyda’r artist Ruth Thomas i greu cardiau Nadolig hyfryd yn defnyddio technegau printio. Ar 29 Tachwedd, bu iddyn nhw weithio efo Sara Jane Harper yn paentio amrywiaeth o addurniadau a bowlenni Nadolig a baratowyd ymlaen llaw i roi fel anrhegion.