Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 8

Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 8

Daeth grŵp Blwyddyn 8 Sir Ddinbych ynghyd unwaith eto ddydd Sadwrn 25 Hydref, yn barod am flwyddyn arall o ddosbarthiadau meistr cyffrous. Yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, gyda’r artist Luned Rhys Parri oedd ein sesiwn gyntaf. Yn dilyn cyflwyniadau, fe aethom i ymweld ag arddangosfa Julie Arkell yn yr oriel, ble bu’r grŵp yn edrych ar ac yn trafod ei gwaith. Yna fe aethom yn ôl i’r Ystafell Addysg, a chyda chymorth a chyngor gan Luned, fe aeth yr aelodau ati i greu eu ffigurau eu hunain, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau cerfluniol, gan gynnwys papier mache. Bydd Luned yn teithio i Batagonia yr wythnos nesaf i addysgu celf yn rhai o’r ysgolion Cymraeg yno – gobeithio y cewch chi amser gwych yno Luned! Criw Celf grŵp 1, rwy’n edrych ymlaen at eich gweld yng Nghastell Bodelwyddan ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr, pan fyddwn ni’n gweithio gyda Catrin Webster, gan ganolbwyntio ar beintiad olew.