Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 7

Criw Celf Sir Ddinbych - Grwp Blwyddyn 7

Ddydd Sadwrn bu i grŵp blwyddyn 7 Criw Celf Sir Ddinbych gyfarfod eto ond, y tro yma, yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Drwy weithio efo’r artist Hannah Wardle bu iddyn nhw archwilio arddangosfa A Yw’n Bren? yn orielau’r ganolfan grefft cyn mynd ati i ddylunio a chreu eu darnau eu hunain yn defnyddio pren wedi ei dorri a laser yr oedd Hannah wedi dod efo hi. Canolbwyntiodd a gweithiodd y grŵp yn galed iawn – ‘doedd na’r un smic i’w glywed!

Bydd dosbarth meistr nesaf blwyddyn 7 ar 17 Ionawr ac mi fyddan nhw’n gwneud gemwaith efo’r artist Karen Williams. Unwaith eto, bydd eu gwaith wedi ei ysbrydoli gan arddangosfeydd Canolfan Grefft Rhuthun.

Mae ein grŵp Blwyddyn 8 yn cyfarfod ar 6 Rhagfyr. Byddan nhw’n gweithio efo’r artist Catrin Webster yng Nghastell Bodelwyddan yn archwilio’r defnydd o baent olew!