Criw Celf Sir Ddinbych

Criw Celf Sir Ddinbych

Cyfarfu grŵp Criw Celf newydd Sir Ddinbych am y tro cyntaf ddydd Sadwrn 18 Hydref. Roeddem yn cyfarfod yng Nghastell Bodelwyddan a rhoddwyd y pecynnau celf newydd i’r grŵp. Trafododd yr Artist Maria Hayes y deunyddiau newydd gyda hwy, gan ddangos sut i wneud y defnydd gorau o’u pecynnau newydd a sut i ddarlunio wrth arsylwi. Roedd yn ddiwrnod hyfryd a manteisiwyd ar hyn gan ddarlunio yn yr awyr agored y rhan fwyaf o’r diwrnod.

Mae’r grŵp Blwyddyn 7 yn cyfarfod yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar 15 Tachwedd, i weld yr arddangosfa o goed sydd yno ac i ddysgu sut i weithio gyda choed gan yr artist Hannah Wardle.