Gwahoddiad I Dendro: Dylunio fframwaith gwerthuso ar gyfer Criw Celf

Gwahoddiad I Dendro: Dylunio fframwaith gwerthuso ar gyfer Criw Celf

Disgrifiad

Y dasg yw dylunio fframwaith gwerthuso ar gyfer Criw Celf, i alluogi partneriaid a rhanddeiliaid i adeiladu corff o dystiolaeth sy’n arddangos gwerth ac effaith y rhaglen hon ar ei hymgyfranogwyr ac ar sector ehangach y celfyddydau ac addysg.

Bydd y contract yn rhedeg o fis Rhagfyr 2014 hyd fis Mawrth 2015.

Rydym yn chwilio am ymgynghorydd gydag arbenigedd penodol ym maes gwerthuso prosiectau a dylunio cynlluniau gwerthuso ac, o ddewis, mewn cyd-destun celfyddydol ac/neu addysgiadol. Mae arnom angen fframwaith a fydd yn darparu tystiolaeth o’r effaith ac adrodd stori Criw Celf drwy dynnu sylw at astudiaethau achos; dal data ac adborth cyson a defnyddio tystiolaeth feintiol yn ogystal ag ansoddol i gofnodi a mesur allbynnau celyd a meddal.

Rydym yn ceisio ffordd arloesol a llawn dychymyg o fynd ati a fydd yn esgor ar Fframwaith Gwerthuso y bydd pobl ifainc am ymgysylltu ag ef ac na fydd ymarferwyr celfyddydol yn ei ystyried yn rhy feichus o ran ei weithredu. Mae casglu data dibynadwy’n hanfodol bwysig, wrth gwrs, ond hefyd hoffem ddal ysbryd y prosiect dyfeisgar hwn ym maes y celfyddydau gweledol drwy’r broses Gwerthuso hefyd. Felly mae ffilm, y cyfryngau digidol a dogfennaeth ffotograffyddol yn debygol o fod yn elfennau pwysig o’r gwerthuso. Rydym hefyd yn rhagweld y bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu ychydig o hyfforddiant cychwynnol/sesiynau ymgyfarwyddo ar y fframwaith gwerthuso newydd i sicrhau bod partneriaid yn hyderus wrth ei ddefnyddio a’i fod yn cael ei ddefnyddio’n gyson ar draws gwaith y partneriaid.

I ddarllen y ddogfen dendr lawn ewch i:
http://www.celfcymru.org.uk/1287/75701?diablo.lang=cym

Dyddiad cau: 28 Tach 2014

Manylion cyswllt:
Sally Lewis
sally.lewis@celfcymru.org.uk