Criw Celf Sir Ddinbych - Arddangosfa yn llwyddiant mawr

Criw Celf Sir Ddinbych - Arddangosfa yn llwyddiant mawr

Cafodd Criw Celf Sir Ddinbych ddiwedd gwych i’w blwyddyn gyntaf, gyda dathliad yng Nghanolfan Grefft Rhuthun a oedd yn cynnwys y Criw Celf, Sgwadiau Sgwennu Sir Ddinbych a NEW Dance. Cafodd gwaith y Criw Celf ar y thema mudo ei arddangos dros fisoedd yr haf yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, gan ddangos gwaith aelodau’r Criw Celf ochr yn ochr â gwaith ysgrifenedig y sgwadiau Cymraeg a Saesneg. Mae ffilm o brosiect ieuenctid NEW Dance, lle mae’r coreograffi yn ymateb i’r delweddau a’r gwaith ysgrifenedig hyn, yn cael ei berfformio ochr yn ochr â’r arddangosfa i aelodau’r Criw Celf a Sgwad Sgwennu a’u teuluoedd mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.

Bydd Criw Celf Sir Ddinbych yn dechrau ar eu prosiectau newydd yn fuan, y tro hwn gyda dau grŵp, un o Flwyddyn 7 ac un o Flwyddyn 8.