Trip Haf Criw Celf Gwynedd i Nant Gwrtheyrn

Trip Haf Criw Celf Gwynedd i Nant Gwrtheyrn

Wythnos diwethaf cymerodd aelodau Criw Celf Gwynedd ran mewn dosbarth meistr arbennig oedd yn cael ei redeg gan yr artist Mai Thomas yn Nant Gwrtheyrn.

Adnabyddus am ei golygfeydd prydferth ac yn gartref i amrywiaeth o adar a bywyd gwyllt oedd Nant Gwrtheyrn yn lleoliad perffaith ar gyfer gwario ben bore yn braslunio lluniau o adar.

Yna dangosodd Mai Thomas i’r dosbarth sut y gallent drawsnewid eu lluniadau 2D i fodelau 3D gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol bapurau, tâp a gwifren. Erbyn diwedd y bore roedd gennym ystafell yn llawn o adar bach, pob un yn mynegi cymeriad unigol.

Ar ôl taith i lawr i’r traeth yn y prynhawn i gasglu cerrig, gwymon a glaswellt fe wnaeth yr aelodau ddechrau gweithio ar gynhyrchu cartrefi ar gyfer eu hadar bach. Gosodwyd caead ar eu pennau yn barod ar gyfer eu harddangos yng nghabinet o chwilfrydedd a ddaeth Mai Thomos i’r gweithdy.