Criw Celf Gwynedd: Llefydd ar Gael

Criw Celf Gwynedd: Llefydd ar Gael

Mae cynllun Criw Celf yn gweithio gyda phobl ac mae rhai llefydd ar gael i bobl ifanc blwyddyn 8. Mae’r prosiect yn cael ei gynnig i bobl ifanc ar draws Gwynedd ac yn cynnwys cyfres o ddosbarthiadau meistr sydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a’u profiadau.

Mae pob aelod o Criw Celf Gwynedd yn cael mynychu cyfres o chwe dosbarth meistr yng nghwmni artistiaid proffesiynol amrywiol. Mae’r dosbarthiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau creadigol ac ysbrydoledig megis orielau, canolfannau celfyddydol a pharciau gwledig. Mae pob dosbarth meistr yn cynnig cyfleoedd i’r plant arbrofi a thechnegau, themâu a deunyddiau amrywiol.

Mae sesiynau Criw Celf yn bedwar awr o hyd, ac yn cael eu cynnal ar ddyddiau Sadwrn. Tal Aelodaeth: £35 am gyfres o 6 gweithdy 4 awr o hyd. Ffoniwch 01286 679721 neu e-bostiwch celf@gwynedd.gov.uk am fwy o wybodaeth.

*I archebu lle: Cwblhewch a postiwch ffurflen gofrestru a’ch siec am £35.