Criw Celf Gwynedd - Ceisiadau 2014/15

Criw Celf Gwynedd - Ceisiadau 2014/15

Diolch yn fawr iawn i’r holl ysgolion sydd wedi gyrru’r ceisiadau i mewn atom ar gyfer y grŵp Criw Celf ychwanegol fydd yn cychwyn ym mis Medi 2014. ‘Rydym wedi derbyn bron i bum deg o geisiadau ac fe fyddwn yn dethol yr aelodau llwyddiannus wythnos nesaf. Byddwn yn cysylltu gyda phawb i gyhoeddi enwau’r aelodau newydd cyn diwedd y tymor!