Criw Celf Bach Gwynedd: Llefydd ar Gael

Criw Celf Bach Gwynedd: Llefydd ar Gael

Clwb celf i blant rhwng 7 a 11 mlwydd oed yw Criw Celf Bach. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i blant i greu celf yng nghwmni artistiaid proffesiynol yn ystod gweithdai celf misol. Bydd y sesiynau yn cynnig cyfle i arbrofi â deunyddiau celf, technegau a themâu mewn modd chwareus.

Mae tri chanolfan yng Ngwynedd yn cynnal rhaglenni Criw Celf Bach i blant 7-11 mlwydd oed. Mae dau grŵp yn cwrdd yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor, un grŵp yn Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog a grŵp arall draw yn Theatr Harlech. O fis Medi ‘mlaen bydd yr artist o Fôn Rhian Catrin Price yn cynnal sesiynau ym Mangor ac fe fydd yr artist o Lŷn – Tess Urbanska yn cynnal sesiynau yn Llanbedrog ac yn Harlech. Bydd Cymhorthyddion Gweithgareddau Celf Cyngor Gwynedd hefyd yn bresennol i roi help llaw.

Mae sesiynau Criw Celf Bach yn ddwy awr o hyd, ac yn cael eu cynnal ar ddyddiau Sadwrn. Tal Aelodaeth: £35 am gyfres o 10 gweithdy 2 awr o hyd. Ffoniwch 01286 679721 neu e-bostiwch celf@gwynedd.gov.uk am fwy o wybodaeth.

I archebu lle: Cwblhewch a postiwch y ffurflen ganlynol a’ch siec am £35 Ffurflen Archebu

Dyma ein Poster , croeso i chi ei rannu gyda’ch ffrindiau!