Criw Celf Bach Sir Ddinbych

Criw Celf Bach Sir Ddinbych

Mae Criw Celf Bach yn digwydd yn Llyfrgell y Rhyl un dydd Sadwrn bob mis. Mae’r gweithdai celf hyn wedi eu dyfeisio ar gyfer plant rhwng 7 ac 11 oed; mae’r sesiynau yn cynnig cyfle i’r plant archwilio ac arbrofi gydag amrywiaeth o dechnegau, themâu a deunyddiau. Mae aelodau Criw Celf Bach wedi gweithio gydag amrywiaeth o artistiaid proffesiynol, gan gynnwys creu cyanotypes gyda’r artist Sian Hughes, gwneud masgiau gyda Ruth Vintr ac argraffu gyda Tara Dean. Mae arddangosfeydd o waith celf y plant yn cael eu cynnal o bryd i’w gilydd; cadwch lygad ar y wefan hon am y manylion diweddaraf.

Nid yw Criw Celf bob amser yn dilyn thema, ond eleni, mae nifer o’n gweithdai wedi bod yn seiliedig ar thema Mudo, i ddathlu 150 mlynedd ers y mudo o Gymru i Batagonia y flwyddyn nesaf. Rydym wedi cael nifer o weithdai lle mae mudo wedi darparu thema i wahanol artistiaid ei harchwilio gyda’n haelodau – maent wedi gwneud llyfrau poced gyda’r artist Becky Adams, llongau mewn poteli gyda Mai Thomas a chreu cyfres o ffigurau ymfudo gyda Katie Scarlett Howard. Gweler y tudalennau Digwyddiadau i gael manylion yr arddangosfa sydd i ddod o’r gwaith hwn!
Rydym yn trefnu teithiau i leoliadau diddorol o bryd i’w gilydd. Cadwch lygad ar y tudalennau hyn am newyddion am unrhyw deithiau neu ddigwyddiadau arbennig.

Cysylltwch â Sian Fitzgerald, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol, Cyngor Sir Ddinbych am ragor o wybodaeth am Griw Celf Sir Ddinbych – sian.fitzgerald@denbighshire.gov.uk / 01824 708216