'Ffrwydriad Celf': Criw Celf Bach Arfon

'Ffrwydriad Celf': Criw Celf Bach Arfon

Bu i Criw Celf Bach gymryd rhan mewn gweithdy arbennig i greu gweithiau celf yn rhan o ‘Ffrwydrad Celf’, Wythnos Celfyddydau Gwirfoddol Cymru eleni.

Cafodd bawb gyfle i edrych ar gasgliadau hanesyddol Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ac i ddilyn thema ‘diwrnod golchi’. Bu i’r plant argraffu delweddau ar lieiniau sychu llestri i’w harddangos yn yr Amgueddfa. Cerwch draw i’n tudalen Facebook i weld y lluniau!