Criw Celf Gwynedd

Criw Celf Gwynedd

Mae 2014 yn flwyddyn brysur i gynllun Criw Celf yng Ngwynedd.

Mae pedwar grŵp Criw Celf Bach bellach yn cael eu cynnal yng Ngwynedd; dau o’r rheiny yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor ‘dan arweiniad yr artistiaid Eleri Jones a Lisa Eurgain Taylor. Mae grŵp arall yn cwrdd yn rheolaidd yn Oriel Plas Glyn y Weddw ac un arall draw yn Theatr Harlech gyda Therese Urbanska a Nia Lloyd Roberts yn arwain y gweithdai. Mae sesiynau Criw Celf Bach wedi eu dyfeisio ar gyfer plant rhwng 7-11 mlwydd oed ac yn cynnig cyfleoedd i’r plant arbrofi a thechnegau, themâu a deunyddiau amrywiol. Bydd arddangosfa o waith y plant yn cael eu cynnal ym misoedd yr Haf eleni, cadwch lygad allan yma ar ein gwefan am y manylion diweddaraf.

Mae Criw Celf yn cynnal cyfresi i ddosbarthiadau meistri i blant a phobl ifanc blynyddoedd 7 i 9 yn ogystal. Mae pob aelod o Criw Celf Gwynedd yn cael mynychu cyfres o chew dosbarth meistr yng nghwmni artistiaid proffesiynol amrywiol. Mae’r dosbarthiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau creadigol ac ysbrydoledig megis orielau, canolfannau celfyddydol ac pharciau gwledig.

Byddwn hefyd yn trefnu tripiau i leoliadau diddorol o dro i dro. Eleni da ni’n gobeithio gallu trefnu taith o amgylch rhai o stiwdios a gweithdai celf fydd ar agor i’r cyhoedd yn rhan o’r digwyddiad blynyddol yr Helfa Gelf

Cofiwch ddilyn ein hynt a’n helynt ar Facebook a Twitter. Cystylltwch â Gwawr Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol, Cyngor Gwynedd am fwy o wybodaeth am Criw Celf Gwynedd – GwawrR@gwynedd.gov.uk / 01286 647721 / 07789 032517